Hanes

ADFER HEN GAPEL JOHN HUGHES, PONTROBERT

Adeiladwyd y capel gan y Methodistiaid Calfinaidd tua 1800, wedi i wr o’r enw John Griffiths bwrcasu’r tir oddi wrth Mathew Lloyd o fferm Rhospenbwa, Pontrobert ym 1799. Prynwyd dau ddarn o dir ar gost o £14.45 yr un; un yn ffinio a hen adeilad o eiddo Mathew Lloyd, a’r llall, yn ol y gweithredoedd, wedi ei amgylchynu gan dir Iarll Powys a thir a elwid yn ‘Gomin Rhospenbwa’.  Byddai’r ail ddarn o dir yn cael ei ddefnyddio fel mynwent. Ar y pedwerydd ar ddeg o Dachwedd, 1801, gwnaed  trawsgludiad rhwng John Griffiths a saith ymddiriedolwr y Methodistiaid Calfinaidd i drosglwyddo’r tir i awdurdodau’r capel. Un o’r ymddiriedolwyr hynny oedd John  Thomas, Dolwar Fach, brawd hynaf yr emynyddes, Ann Griffiths, a’r cyntaf o’r teulu nodedig hwnnw i droi at y Methodistiaid tua’r flwyddyn 1794. Mae’n ddiddorol nodi rhan o eiriad y gweithredoedd sy’n darllen fel hyn:- “The meeting house may be let from year to year to some honest, devout and religious person for keeping a school”.

Daeth John Hughes yn gyfaill enaid a thad yn y ffydd i Ann Griffiths wedi iddo ddod i Ddolwar Fach i aros tra’n gweithio fel un o athrawon cylchynnol Thomas Charles o’r Bala yn y flwyddyn 1800, ac am bum mlynedd olaf ei bywyd, bu’r emynyddes yn addoli a seiadu yn yr Hen Gapel ym Mhontrobert gyda nifer fawr o bobl ifainc brwd eraill y diwygiad Methodistaidd ym Maldwyn.  Gwehydd oedd John Hughes wrth ei alwedigaeth, ond wedi iddo gael ei ordeinio ym 1814 gan Thomas Charles yn dilyn amlygiad dawn ymenyddol ac argyhoeddiad crefyddol dwfn, ymgartrefodd, gyda’i wraig, Ruth, (a fu’n forwyn yn Nolwar Fach) yn y ty sydd ynghlwm wrth y capel, ac yno y buont am ddeugain mlynedd gan fagu chwech o ferched, a gweld twf mawr yn nifer yr addolwyr a’r seiadwyr.  Defnyddiodd John Hughes yr adeilad fel ysgol hefyd, gan ddefnyddio ei allu a’i brofiad o dan hyfforddiant ac anogaeth Thomas Charles.

Bu John Hughes farw yn y flwyddyn 1854, a Ruth, pedair blynedd yn ddiweddarach. Claddwyd y ddau yn y fynwent gyferbyn, (nid oes cofnod ynglyn a man claddu’r merched, pob un yn ddi-briod, ond tybir mai yn yr un bedd y gorweddant) ac er i’r capel gael ei ddefnyddio am rhyw ddegawd wedyn, barnwyd ei fod yn rhy fach i gynnal y nifer fawr o ffyddloniaid yr achos ar y pryd, ac ym 1865 fe’i caewyd wrth i gapel newydd gael ei godi yng nghanol y pentref ger y bont enwog, (Pont Robert (Oliver).

Er ymdrechion Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd i werthu’r capel, ni wireddwyd hynny tan y flwyddyn 1927 pan ddaeth y saer troliau a drigai yn y ty drws nesaf, Pentre Ucha, yn berchen arno gan newid ei wedd trwy osod drysau mawr dwbwl er mwyn mynd a’r certiau i mewn ac allan.  Oherwydd cymal yn y gweithredoedd, nid oedd hawl ganddo symud pulpud John Hughes a oedd yn eiddo i’r Cyfundeb, ac o dipyn i beth, dirywiodd ei gyflwr, ynghyd a’r adeilad.  Daeth yn eiddo i ddisgynnydd y saer troliau yn y man, ond gwr busnes yn Llundain ydoedd hwnnw, heb ddim diddordeb dros gynnal-a-chadw’r adeilad, a phan ddaeth yn hysbys yn nechrau’r 1980au ei fod am ei werthu, ffurfiwyd pwyllgor lleol, gyda’r gweinidog Presbyteraidd yn Ysgrifennydd, i drafod y posibilrwydd o godi arian trwy apel genedlaethol i’w brynu. Ymddangosodd erthygl gyda llun o’r adeilad a’r pulpud yn y papur bro “Plu’r Gweunydd”yn 1983 yn galw am gefnogaeth i’r bwriad, ac esboniad hefyd ynglyn a phwysigrwydd cadw pulpud John Hughes yn ei gynefin yn hytrach na’i weld yn cael ei symud i Sain Ffagan.  Cafwyd ymateb da a buan i’r apel a alluogodd y pwyllgor i brynu’r eiddo am £10,000 a sefydlu Ymddiriedolaeth Hen Gapel John Hughes Pont Robert a fyddai’n gyfrifol am lywio’r apel a chwilio am grantiau i adfer yr adeilad a’r pulpud.  Cofrestrwyd yr adeilad yn Gradd II* gan RCAHM Cymru/Wales.  Amcangyfrif y gost oedd £50,000, ac er denu grantiau gan CADW a sawl elusen arall, cymerodd ddeuddeng mlynedd i gwblhau’r gwaith wrth i’r pwyllgor llywio weithio’n wirfoddol a ffyddiog i godi’r hyn oedd yn weddill. Cafwyd cyfraniadau gan yr enwadau yn ol eu gallu, ac un rhodd hael iawn gan Annibynwyr Lerpwl, yn ogystal a chyfraniadau llai ond tra derbyniol gan unigolion ac eglwysi o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Adferwyd y ty capel yn gyntaf er mwyn i Nia Rhosier ddod yno i fyw ym 1993 fel Ceidwad; hithau wedi teimlo galwad i weinidogaeth y cymod ac i sefydlu Canolfan Undod ac Adnewyddiad Cristnogol, ac yn Ebrill 1995, agorwyd yr hen gapel ar ei newydd wedd gyda chynrychiolwyr o bob enwad yn bresennol. Rhoddwyd anerchiadau gan y Dr Geraint Gruffydd, Llywydd Anrhydeddus yr Apel, (yn Gymraeg) a Canon A.M.Allchin, Bangor (yn Saesneg), gyda chyfraniadau llafar a cherddorol gan oedolion a phlant yr ardal. Roedd y lle dan ei sang wrth i 70 lwyddo i eistedd ar y cadeiriau pren (rhodd gan bentrefwyr Llanerfyl gyfagos), gyda chant a mwy yn gwrando trwy uchelseinydd ar y buarth.

Wrth i gannoedd o ymwelwyr a phererinion ddechrau ymweld a’r Ganolfan, bu’r Ymddiriedolwyr a’r Pwyllgor Llywio wrthi’n ddyfal yn parhau i godi arian er mwyn adeiladu toiledau wrth ochr y capel lle bu stabal yn amser John Hughes, (a cherrig y stabal hwnnw ddefnyddiwyd i lenwi’r bwlch yn y wal lle bu’r drysau dwbl, gan wneud yr adeilad edrych yn union fel y bu cyn i’r saer troliau ymyrryd ag ef.)  Llwyddwyd i adeiladu toiledau, garej a swyddfa erbyn 1998, a chreu Gardd Heddwch yn y cefn trwy lafur gwirfoddol ddwy flynedd wedyn.

Yn ogystal a chynnal y dystiolaeth Gristnogol trwy gyfarfodydd gweddi, oedfaon achlysurol, seiadau, gweithdai, plygain bore Nadolig ac ati, cynhelir cyfarfod neu oedfa ar Awst 12fed bob blwyddyn, sef Diwrnod Ann Griffiths yng nghalendr yr Eglwys yng Nghymru, a dyddiad ei harwyl yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn y flwyddyn 1805. Daw dysgwyr y Gymraeg yno yn reolaidd er mwyn ymarfer siarad yr iaith, a chynhelir Cylch Darllen Cymraeg bob deufis. Estynnir croeso i gymdeithasau lleol, fel Cymdeithas Gymraeg Pontrobert a Meifod i gynnal pwyllgorau, ac yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau yn 2001 daeth Crynwyr Dolobran i gwrdd ar foreau Sul oherwydd y gwaharddiad ar dramwyo tir amaethyddol a arweiniai at eu Ty Cwrdd.

Mae’n drist gorfod dweud bod y to yn gollwng ers sawl blwyddyn bellach, ac mae apel gennym am gyfraniadau at y gost o osod to newydd. Ond er hyn i gyd, mae’r Ganolfan yn parhau i groesawu pererinion o bell ac agos, ac yn hynod ddiolchgar am bob cefnogaeth, ddoe a heddiw.